Mae Pŵer Pedal yn lwcus iawn i gael cefnogaeth mor wych gan bobl arbennig iawn.

Mae Clare yn weithiwr cymorth ac mae hi wedi bod yn dod i Pŵer Pedal am sawl blwyddyn lle mae hi’n rhoi cymorth i ferch ifanc o’r enw Ashley sy’n mwynhau’r awyr iach a’r cwmni pan fydd hi’n reidio beic ar y llwybr hygyrch.

Penderfynodd Clare helpu Pŵer Pedal a chael ei noddi i neidio 300 troedfedd o ben craen (pan oedd yn sownd i raff bungee)! Digwyddodd y naid ddydd Sul, 1 Mai 2022 ym Mharc Tatton a chafodd yr holl arian a godwyd ei rannu 50/50 rhwng Pŵer Pedal a 'Chanolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd’. Mae naid Clare wedi codi dros £500.

Dywedodd Clare “Rwy’n gweithio fel gofalwr gyda merch arbennig iawn sydd ag anghenion cymhleth, mae hi’n mynd i ddau le gwych sy’n dibynnu 100% ar gyfraniadau, y cyntaf yw 'Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd' a’r ail yw lle anhygoel o’r enw Pŵer Pedal ym Mharc Dyfroedd Alun, lle maen nhw’n darparu pob math o feiciau hygyrch i reidio o amgylch y parc, gan gynnnwys yr un rydyn ni’n ei ddefnyddio sy’n galluogi defnyddiwr cadair olwyn i gael ei godi ar y sedd flaen a gall gofalwr bedalu yn y cefn.”

“Mae’r ddwy elusen hyn yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn bennaf ac maen nhw’n dibynnu ar roddion er mwyn parhau â’u gwaith gwych. Dyna pam wnes i benderfynu neidio 300 troedfedd o ben craen (pan yn sownd i raff bungee)! Byddaf yn cwblhau’r naid ddydd Sul 1 Mai 2022 ym Mharc Tatton a bydd yr holl arian a gaiff ei gasglu yn cael ei rannu 50/50 rhwng y ddwy eluen wych hyn”

Da iawn Clare a diolch yn fawr iawn gan bawb yn Pŵer Pedal.

cy