Diolch i arian gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a weinyddir gan CGGC, rydym yn cynnal sawl menter i feithrin sgiliau a hyder pobl ifanc.

Mae’n bleser gennym rannu cynnydd diweddar un o’r prosiectau a ariennir gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, lle mae pobl ifanc yn gwella eu hyder, yn dysgu sgiliau mecanyddol, ac yn mwynhau beicio, dysgu, a gwirfoddoli. Trwy gyfuniad o weithdai ymarferol, sesiynau beicio, a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, mae’r cyfan wedi cael effaith wirioneddol.

Hyd yma, mae elfen Gwirfoddoli Ieuenctid y fenter wedi croesawu 27 o bobl ifanc o ysgolion a cholegau lleol sydd oll wedi elwa ar wahanol brofiadau dysgu ymarferol.

Mae’r gwirfoddolwyr ifanc yn datblygu sgiliau cynnal beiciau hanfodol, gan ddysgu sut i wneud y canlynol:

  • Canfod a thrwsio problemau gyda theiars, brêcs a gêrs a’u trwsio
  • Trwsio tyllau mewn teiars a newid tiwbiau mewnol
  • Cynnal archwiliadau diogelwch i sicrhau bod beiciau yn ddiogel

Maent yn gwneud llawer mwy na gweithio ar feiciau, maent hefyd yn gwella eu hyder, gwydnwch, a theimlad o berthyn. Trwy gael cyfle i ddefnyddio’r gwahanol feiciau sydd gennym ar y safle, mae llawer ohonynt wedi datblygu yn reidwyr gwell a mwy hyderus, ac mae rhai wedi dysgu sut i reidio beic am y tro cyntaf.

Rydym yn falch iawn fod dau wirfoddolwr ifanc hefyd wedi cymryd rhan mewn prosiectau i ailadeiladu beics, gan dynnu beiciau yn ddarnau a’u gosod yn ôl at ei gilydd. Mae un gwirfoddolwr wedi ymuno â thîm gwirfoddoli Pŵer Pedal sy’n cyfarfod bob dydd Iau, ac mae’n dysgu sut i addasu beiciau ar gyfer anghenion unigol a chynorthwyo i ddarparu’r gwasanaeth.

Yn 2024 fe wnaeth ein menter Dysgu i Reidio gynorthwyo 65 o feicwyr newydd! O blant oedd yn dechrau arni gan ddefnyddio sadwyr a beiciau cydbwyso i unigolion nad oeddynt erioed wedi bod ar gefn beic o’r blaen.

Roedd pob sesiwn yn cynnwys:

  • Cyfarwyddiadau diogelwch sylfaenol i reidwyr a rhieni/gofalwyr
  • Hyfforddiant personol wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn
  • Arweiniad ar gydbwyso, brecio, a llywio
  • Pwyslais ar fynd ar y beic a dod oddi arno ar yr ochr chwith

Rydym yn archwilio helmedi a beiciau yn drylwyr cyn pob sesiwn i sicrhau diogelwch pawb sy’n cymryd rhan.

Mae’r adborth wedi bod yn wych:

“Rwyf wedi gwerthfawrogi’r amser a’r arweiniad a gefais i’m helpu i deithio ar ddwy olwyn. Roedd y cwrs yn wych, ac fe wnaethon ni fwynhau.”

“Roedd y sesiynau yn dda iawn i ddysgwyr sydd am ddechrau reidio.”

Rydym yn falch iawn o ddweud y byddwn yn cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer rhagor o sesiynau Dysgu Reidio yn fuan iawn!

Diolch i gefnogaeth hael y gymuned a’r pwyslais ar gyfnewid ac ailddefnyddio beiciau yn ein prosiect, rydym wedi derbyn 38 o feiciau—sy’n cyfateb i gyfanswm o tua 529.73kg!

Rydym eisoes wedi cyfnewid 24 o’r beiciau hyn, gan roi cyfle i bobl ifanc gael gafael ar feiciau sy’n fwy addas i’w maint a’u hanghenion. Roedd y rhan fwyaf o’r beiciau hyn yn feiciau ar gyfer plant, sydd wedi’u galluogi i gael beiciau â fframiau mwy wrth iddynt dyfu.

Mae’r fenter hon nid yn unig yn annog arferion ailddefnyddio cynaliadwy, mae hefyd yn sicrhau bob pob plentyn yn cael cyfle i fwynhau beicio yn ddiogel ac yn ddibynadwy.

Mae 12 mis o’r prosiect ar ôl, felly rydym yn edrych ymlaen i barhau i weithio gyda’r bobl ifanc a rhannu manteision gwerthfawr beicio a gwirfoddoli gyda nhw. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a gwasanaeth Pŵer Pedal, cysylltwch â ni: info@cycling4all.org / 07908 325 508

WCVA logo
cy