Mae’r elusen Pŵer Pedal o Wrecsam yn edrych ymlaen at ymdrech godi arian anhygoel wrth i un o’r gweithwyr, Rob Pullen, baratoi i goncro mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, i godi arian hanfodol ar gyfer y gwasanaeth beicio cynhwysol.
Mae Rob, sy’n Swyddog Beicio i Bawb gyda Pŵer Pedal ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, yn wynebu’r her fawr hon nid yn unig er mwyn y wefr a’r antur, ond er mwyn helpu pobl o bob gallu i fwynhau rhyddid a hwyl beicio.
“Mae’r adnoddau i ddarparu gwasanaeth beicio â chymorth yn ddrud iawn, ac mae gwir angen diweddaru ein stoc o feiciau ochr-yn-ochr a beiciau wedi’u haddasu,” esboniodd Rob. “Mae gweld y wên ar wynebau ein cwsmeriaid a’u teimlad o gyflawniad yn gwneud yn cyfan yn werth chweil. Mae pob cyfraniad yn cyfrif.”
Mae rhaglen Pŵer Pedal Beicio i Bawb yn rhoi cyfleoedd beicio unigryw i bobl o bob oedran a gallu, gan gynnwys pobl ag anghenion ychwanegol. Mae gan yr elusen fflyd o feiciau arbenigol, fel beiciau tair olwyn, beiciau llaw, beiciau cadair olwyn, a beiciau ochr-yn-ochr, gan olygu bod beicio yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn hwyl i bawb.
Mae Rob yn gobeithio codi £1,000, a fydd yn talu am brynu offer newydd a gwaith cynnal fel y gall Pŵer Pedal barhau i gynnig profiadau beicio sy’n newid bywydau. Bydd pob cyfraniad yn mynd i’r elusen, gan gefnogi ei nod o wneud beicio yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn hwyl i bawb. Os hoffech gefnogi her Kilimanjaro Rob a helpu i gadw olwynion Pŵer Pedal yn troi, ewch i: https://www.justgiving.com/page/rob-pullen-13?utm_medium=FR&utm_source=CL YMA