Diolch i gefnogaeth hael chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion ein bod wedi derbyn arian i ddiweddaru ein system archebu—datblygiad hanfodol sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Pan fydd y system newydd yn ei lle, bydd yn lleihau baich gweinyddol ein Swyddogion Beicio yn sylweddol, ac yn eu galluogi i dreulio mwy o amser ar y pethau pwysig: cefnogi beicwyr i oresgyn yr heriau maent yn eu hwynebu.

Mae’r rhwystrau hyn, boed yn rhai personol (fel diffyg hyder neu heriau yn gysylltiedig ag anabledd) neu heriau amgylcheddol (fel hygyrchedd neu adnoddau cyfyngedig) yn aml yn atal unigolion rhag cymryd rhan yn llawn mewn gweithgareddau beicio. Trwy symleiddio ein prosesau archebu, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cynnig mwy o gymorth personol, hyfforddiant cynhwysol, a datblygu sesiynau beicio newydd, gan gynnwys rhaglenni Dysgu Reidio a Beicio’n Ddiogel.

Dywedodd Lorna Crawshaw, Arweinydd Prosiect Beicio i Bawb:

“Rydym wrth ein bodd i dderbyn yr arian hwn ar gyfer system archebu ar-lein newydd; mae’n gam mawr iawn ymlaen o ran y ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau.

Trwy symleiddio ein prosesau gweinyddol, gall y tîm dreulio mwy o amser ar y pethau pwysig – cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth yn hytrach nag ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol.”

Mae’r buddsoddiad hwn mewn seilwaith yn gam pwysig a fydd yn ein galluogi i ehangu ein gwasanaeth a sicrhau bod mwy o bobl, ni waeth beth yw eu gallu, yn cael cyfle i fwynhau’r rhyddid a’r pleser sy’n gysylltiedig â beicio.

Rydym yn ddiolchgar iawn i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl am ein helpu i gymryd y cam pwysig hwn.

Postcode lottery logo
cy