Mae’r elusen Beicio i Bawb o Wrecsam, sy’n darparu’r gwasanaeth Pŵer Pedal, yn galw ar fusnesau lleol i’w chefnogi dros dymor y Nadolig eleni a chymryd rhan yn y Ffair Nadolig flynyddol, a gynhelir ddydd Iau, 27 Tachwedd, rhwng 6:30pm a 9pm mewn lleoliad arbennig.fed November, from 6:30pm – 9pm at an exclusive venue.
Mae Pŵer Pedal yn darparu cyfleoedd beicio diogel, cynhwysol a hygyrch i bobl o bob oed a gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, bob dydd Mercher a dydd Gwener. Gyda dewis helaeth o feiciau arbenigol, beiciau tair olwyn, ac e-feiciau, yn ogystal â chefnogaeth gan swyddogion a gwirfoddolwyr beicio profiadol, mae Pŵer Pedal yn galluogi unigolion i gael hwyl ac elwa ar fanteision iechyd beicio mewn amgylchedd croesawgar a di-draffig.
Sut gall busnesau lleol gymryd rhan
Mae Pŵer Pedal yn annog y gymuned fusnes leol i gefnogi’r digwyddiad a chyfrannu at y raffl fawr drwy gynnig nwyddau, gwasanaethau, neu brofiadau. Mae’n ffordd wych o hyrwyddo eich busnes a chefnogi achos da ar yr un pryd.
““Mae’r digwyddiad hwn yn ffordd wych i fusnesau lleol roi rhywbeth nôl i’r gymuned a chael cyhoeddusrwydd yn y gymuned,” dywedodd y Swyddog Beicio i Bawb yn Pŵer Pedal. “Os allwch gyfrannu gwobr, neu ymuno â ni ar y noson, bydd pob cyfraniad yn ein helpu i barhau i gynnig ein gwasanaeth i bawb.””
Os hoffech gyfrannu gwobr i’r raffl neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y tocynnau, cysylltwch â Pŵer Pedal drwy e-bostio info@cycling4all.org info@cycling4all.org
Dewch i fod yn rhan o noson godi arian fythgofiadwy a helpu i gadw olwynion beiciau Wrecsam i droi.