Diolch i arian gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a weinyddir gan CGGC, bydd Pŵer Pedal yn cynnig gwersi reidio beic dros yr haf.
Pŵer Pedal yw’r gwasanaeth beicio pob gallu sy’n cael ei redeg gan yr elusen Beicio i Bawb ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam, gan gynnig hwyl, therapi a theimlad o gyflawniad i bobl o bob gallu.
Mae’r sesiynau yn dechrau ddydd Sadwrn, 2 Awst, ac yn cael eu cynnal am 5 wythnos rhwng 10am a 12pm, ac ar agor i bob oedran. Dewch â’ch beic a’ch helmed eich hun, neu mae gennym rai yma y gallwch eu defnyddio os oes angen.
Gofynnir i rieni/gofalwyr aros gyda’u plant yn ystod y sesiwn a gwisgo esgidiau addas gan ei bod yn debygol y bydd angen i chi wneud rhywfaint o redeg.
Y gost yw £8 y sesiwn, neu gallwch archebu 5 sesiwn am £35. Byddwch yn derbyn helmed am ddim wrth archebu 5 sesiwn.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch hanna.clarke@cycling4all.org neu i archebu sesiwn dilynwch y dolennau isod. hanna.clarke@cycling4all.org or to book a session follow the links below.
Archebwch 1 sesiwn YMA
Archebwch 5 sesiwn YMA
Mae Beicio i Bawb ar agor bob dydd Mercher, dydd Iau, a dydd Gwener, ac mae ganddo fflyd o feiciau safonol ac arbenigol, gan gynnwys beiciau tair olwyn, beiciau llaw, beiciau cadair olwyn, a beiciau ochr yn ochr. Mae llwybr beicio didraffig yn mynd o amgylch y parc lle gall ein cwsmeriaid fwynhau beicio mewn man saff a diogel.
Mae Pŵer Pedal hefyd yn gofyn i bobl gyfrannu hen feiciau / beiciau nad oes eu hangen arnynt mwyach ac sydd mewn cyflwr da, ar gyfer ein menter Ffeirio Beiciau. Y nod yw lleihau nifer y beiciau sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Gallwch gael rhagor o fanylion am Beicio i Bawb a’r gwasanaeth beicio Pŵer Pedal yn www.cycling4all.org neu ar Facebook – Pŵer Pedal / Pedal Power Wrecsam.