Caffi Cyfle – Café of Opportunity

Mae Caffi Cyfle gyferbyn â Beicio i Bawb ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 4AG.
Mae Caffi Cyfle yn gweini bwyd blasus, tymhorol ac iachus y gall pawb ei fwynhau, ac mae hefyd yn rhoi cyfleoedd cynhwysol i’r gymuned ehangach gymryd rhan mewn rhaglenni gwaith a gwirfoddoli. Mae’n lle gwych i fwynhau bwyd blasus a maethlon am bris fforddiadwy mewn lleoliad bendigedig ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun. Mae’r pwyslais ar gynhwysion ffres, lleol, o ffynonellau cynaliadwy, a chefnogi cyflenwyr o Gymru.
Yn gweini brecwast, dewis o gacennau a chynnyrch crwst, bwyd poeth, byrbrydau cartref, cawl a brechdanau. Mae Caffi Cyfle yn cynnig croeso cyfeillgar ac anffurfiol – y lle perffaith i eistedd nôl ac ymlacio ar ôl cymryd rhan yng ngweithgareddau’r parc.
Mae enghraifft o fwydlen Caffi Cyfle ar gael YMA. We cater for all dietary requirements.