Llogi Beiciau

Beiciau Arbenigol

Ar eich ymweliad cyntaf byddwn yn cynnal asesiad/sesiwn ymsefydlu ac yn eich helpu i ddewis y beic cywir ar eich cyfer chi. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Ymwrthodiad Llogi Beic a chofrestru gyda ni. Byddwch yn cael amser i ddewis y beic gorau ar eich cyfer chi a’ch anghenion a gallwch gael tro ar y beic ar ein trac hyfforddiant cyn mentro allan i’r parc. Mae gennym declyn codi (hoist) os oes angen ond rhaid i gwsmeriaid ddod â’u sling eu hunain.

Beiciau Safonol

Mae gennym fflyd o feiciau safonol a beiciau mynydd, gan gynnwys beiciau i blant, trelars i blant a beiciau cydbwyso. Gall beiciau safonol ddefnyddio’r holl lwybrau beicio yn y parc gwledig.

– Rhaid archebu beiciau ymlaen llaw
– Rhaid cofrestru
– Rydym yn derbyn archebion gan grwpiau
– Gostyngiad ar gael i deuluoedd Darllenwch ein Telerau ac Amodau llogi beiciau.

Darllenwch ein Telerau ac Amodau llogi beiciau.

Darllenwch ein Telerau ac Amodau llogi beiciau. 07908 325508 to book on the days Pedal Power is open.

Bike Hire
cy