Mae Nigel Reader, ymddiriedolwr a gwirfoddolwr ymroddedig gyda Beicio i Bawb wedi cyrraedd carreg filltir anhygoel drwy godi dros £10,000 i gefnogi gwaith hollbwysig yr elusen. Dros y pedair blynedd diwethaf mae Nigel wedi bod yn cyfuno ei ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth a gweithgareddau cymunedol i godi arian ar gyfer Beicio i Bawb drwy berfformio mewn cartrefi gofal a digwyddiadau cymunedol.
Dechreuodd Nigel ei yrfa fel canwr yn 2010 ar ôl ymddeol o’i waith llawn amser, ac erbyn hyn mae’n perfformio o leiaf ddwywaith yr wythnos. Mae’n perfformio i dros 20 o sefydliadau lleol sy’n derbyn gwasanaeth fforddiadwy iawn ar gyfer eu cleientiaid. Mae Nigel hefyd yn perfformio am ddim bob mis yn y clwb Cinio a Chwmni i bobl dros 55 oed a drefnir gan Groundwork Gogledd Cymru ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun. Dywedodd Nigel:
“Mae pawb ar ei ennill gan fy mod i’n mwynhau perfformio ac ymwneud â phobl, mae’r gynulleidfaoedd yn fy hoffi ac mae’r cyfraniadau ariannol yn mynd i’m hoff elusen – Beicio i Bawb.” All.”
Ymunodd Nigel â bwrdd ymddiriedolwyr Beicio i Bawb yn 2019, gan roi cyfle iddo weld drosto ei hun sut mae gwaith yr elusen yn effeithio ar bobl. Mae Beicio i Bawb yn cynnig gwasanaeth beicio pob gallu Pŵer Pedal yn ardaloedd Gogledd-ddwyrain Cymru, Sir Gaer a Glannau Merswy. Mae gwasanaeth Pŵer Pedal yn galluogi plant ac oedolion ag anableddau i gael hwyl ac elwa ar fuddion therapiwtig beicio. Mae’r gwasanaeth ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun yn cefnogi unigolion agored i niwed a phobl sydd â heriau iechyd i wella eu lles drwy gynnig cyfleoedd beicio arbenigol.
Wrth gyfeirio at ymdrechion Nigel, dywedodd Helen Wright, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Beicio i Bawb:

“Hoffem ddiolch yn fawr i Nigel am ei ymroddiad diflino a’i gyflawniad anhygoel. Mae cyfraniadau Nigel yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ni nawr a byddant o gymorth i ni yn y dyfodol. Fel elusen dydyn ni ddim yn derbyn arian uniongyrchol gan y llywodraeth ac rydyn ni’n dibynnu ar ymdrechion gwirfoddolwyr fel Nigel, defnyddwyr ein gwasanaethau, ein raffl fawr flynyddol a’n digwyddiad Nadolig i godi arian.
Mae 2025 yn flwyddyn bwysig i ni gan ein bod yn dathlu ein 10fed pen-blwydd yn elusen annibynnol. Yn ystod y flwyddyn arbennig hon byddwn yn lansio ymgyrch fawr i godi dros £21,000 er mwyn ein helpu i uwchraddio ein fflyd o feiciau a bodloni anghenion ein defnyddwyr.
Os hoffech gefnogi ein hymdrechion i godi arian ar gyfer uwchraddio’r fflyd, mae croeso i chi gysylltu â ni.”
I gael rhagor o wybodaeth am Beicio i Bawb neu os hoffech ein helpu i godi arian, ewch i cycling4all.org, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch 01978 757524 a gofynnwch am Hanna.