Dewch i wirfoddoli gyda’n gwasanaeth Reidio â Chymorth newydd!
Gan ddechrau ym mis Ebrill 2025, rydym yn falch iawn o lansio gwasanaeth Reidio â Chymorth ym Mhŵer Pedal! Bydd y fenter hon yn ehangu ein gwasanaethau seiclo i gleientiaid sy’n byw’n annibynnol neu heb gymorth amser llawn ond a fyddai wrth eu bodd yn cael cyfle i fwynhau seiclo.
Pwy fydd yn elwa?
Bydd Reidio â Chymorth yn croesawu cleientiaid sydd ag:
- Amhariad ar y golwg
- Amhariad ar y clyw
- Anableddau corfforol
- Anableddau dysgu
- Neu unrhyw gyfuniad o’r anghenion hyn
Nod y sesiynau hyn yw gwneud seiclo yn hygyrch i bobl sy’n gallu teithio i Pŵer Pedal ond sydd ddim o bosibl yn gallu reidio’n annibynnol neu does neb ar gael i’w helpu ar y reid.
Sut mae’n gweithio
Ar y dechrau byddwn yn cynnig y sesiynau un diwrnod yr wythnos gyda phedwar slot 1 awr:
- 2 sesiwn yn y bore
- 2 sesiwn yn y prynhawn
Bydd pob sesiwn yn cynnwys briffiad diogelwch, gwirio helmed, paratoi’r beic, ac amser reidio ar ein llwybr hardd 1 milltir o hyd oddi ar y ffordd o amgylch Parc Gwledig Dyfroedd Alun.
Cyfleoedd gwirfoddoli
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr amyneddgar i helpu i wneud y sesiynau hyn yn llwyddiant! Gallwch ddewis oriau hyblyg:
- Diwrnod llawn
- Hanner diwrnod
- Rhan o’r dydd yn unig
Bydd yr holl wirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr, a byddwn yn trefnu gwiriad uwch DBS ar eich rhan.
Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr gan helpu eraill i fwynhau seiclo!
I fynegi eich diddordeb mewn gwirfoddoli gallwch lenwi ein ffurflen ar--lein YMA neu os hoffech gael sgwrs gyda rhywun ffoniwch 07908 325 508 neu e-bostiwch info@cycling4all.org