Mae Pŵer Pedal, y gwasanaeth beicio pob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam, wedi llwyddo i godi dros £2,500 yn ei Ffair Nadolig a gynhaliwyd ar 28fedTachwedd 2023, yn The Courtyard, Stad Eaton Grosvenor, trwy garedigrwydd Dug Westminster. Mae’r elusen yn dibynnu ar nawdd o’r fath i gynnal y gwasanaeth o ddydd i ddydd.
Roedd gwydraid o ddiod pefriog ar gael i’r gwesteion ac adloniant gan Nigel Reader, Ymddiriedolwr Pŵer Pedal, a fu’n canu caneuon Nadoligaidd. Darparwyd bwrdd pori tymhorol blasus gan Caffi Cyfle, Wrecsam, ac roedd cyfle i brynu nwyddau ac anrhegion Nadolig gwych gan fanwerthwyr lleol.
Dywedodd Helen Wright, Cadeirydd Pŵer Pedal:
“Diolch i bawb am wneud ymdrech i gefnogi Pŵer Pedal ac ymuno â ni yn y lleoliad gwych hwn i godi arian ar gyfer gwasanaeth mor bwysig. Rydyn ni’n credu y dylai pawb gael cyfle i fwynhau manteision beicio, beth bynnag yw eu hoedran neu allu, ac mae cefnogaeth y gymuned mewn digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i barhau i gynnig ein gwasanaethau a sicrhau bod dyfodol beicio yn cynnwys pawb.
Diolch i’r holl fusnesau lleol ac unigolion am gyfrannu gwobrau ac anrhegion; diolch hefyd i’r holl wirfoddolwyr am helpu i wneud y noson yn llwyddiant; a diolch i bawb a brynodd docyn a chyfrannu – mae Pŵer Pedal yn ddiolchgar iawn i chi am wneud gwahaniaeth.”
Mae Pŵer Pedal ar agor bob dydd Mercher a dydd Gwener; mae fflyd o feiciau arbenigol a safonol ar gael i’w llogi a’u defnyddio ar drac pwrpasol di-draffig. Gall beicwyr fwynhau’r buddion i’w hiechyd a’u lles drwy feicio mewn amgylchedd diogel.
Mae pob math o feiciau ar gael i’w llogi, o feiciau arbenigol fel beiciau tair-olwyn, beiciau ochr-yn-ochr, beiciau llaw a beiciau cadair olwyn, i feiciau safonol, beiciau mynydd a beiciau trydan. Cefnogir y gwasanaeth gan swyddogion beicio ymroddedig a gwirfoddolwyr gwych sy’n helpu cwsmeriaid i fwynhau beicio hygyrch mewn amgylchedd diogel.
I gael rhagor o wybodaeth am Pŵer Pedal, ewch i’r wefan www.cycling-4-all.org neu edrychwch am yr elusen ar Facebook a Twitter. www.cycling-4-all.org or find then on Facebook and Twitter.