Bydd Wythnos Elusennau Cymru yn cael ei chynnal unwaith eto eleni rhwng 25 a 29 Tachwedd 2024, gan dynnu sylw at waith gwych elusennau, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol, a gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru. Mae’r dathliad eleni yn gyfle i gydnabod cyfraniad hollbwysig yr elusennau a’r mudiadau gwirfoddol hyn i fywydau unigolion a chymunedau.
Yn ystod Wythnos Elusennau Cymru eleni rydym yn gofyn i chi gefnogi Beicio i Bawb. Mae Beicio i Bawb yn darparu gwasanaeth beicio pob gallu unigryw (Pŵer Pedal) sy’n rhoi cyfleoedd i bobl o bob gallu, fel y gall pawb gymryd rhan a mwynhau. Mae gan y gwasanaeth Beicio i Bawb ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam, amrywiaeth eang o feiciau a beiciau tair-olwyn, gan gynnwys beiciau llaw, beiciau cadair olwyn, beiciau ochr-yn-ochr, ac offer arbenigol eraill.
Yn ystod blwyddyn pan mae straen ariannol yn effeithio ar lawer o bobl, mae thema Wythnos Elusennau Cymru yn ein hatgoffa nad oes yn rhaid rhoi arian i gefnogi elusennau.. Mae Beicio i Bawb yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i ystyried rhoi eu hamser neu adnoddau —boed hynny’n golygu gwirfoddoli, cyfrannu offer, neu helpu i godi arian ar gyfer prosiectau y mae dirfawr eu hangen. Mae’r elusen hefyd yn croesawu eitemau y gellir eu ddefnyddio fel gwobrau ar gyfer digwyddiadau codi arian, gan ei gwneud yn haws i bobl roi mewn ffyrdd ystyrlon sy’n addas i’w hamgylchiadau.
Wrth i Beicio i Bawb barhau i sicrhau y gall pawb fwynhau beicio, mae gwaith yr elusen yn tynnu sylw at effaith ehangach sector elusennol ffyniannus Cymru. Mae elusennau fel Beicio i Bawb yn achubiaeth i unigolion ag anableddau, cyflyrau iechyd, neu rwystrau eraill, gan roi cyfle iddynt fwynhau rhyddid beicio a chyrraedd cerrig milltir personol. Ni waeth a ydych chi’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, neu gael hwyl gyda’r teulu a ffrindiau, mae Beicio i Bawb yn helpu i wella bywydau llawer o bobl yn yr ardal.
Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru), trefnwyr Wythnos Elusennau Cymru, yn annog pawb i gymryd rhan drwy gefnogi eu helusennau lleol a mudiadau gwirfoddol. Gall y weithred syml o gyfrannu, gwirfoddoli, neu rannu eich sgiliau wneud gwahaniaeth mawr iawn i fywyd rhywun arall.
Sut gallwch chi helpu Beicio i Bawb yn ystod Wythnos Elusennau Cymru:
- Rhoi eich amser:Gwirfoddoli a helpu i ddarparu gwasanaeth Beicio i Bawb ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, neu roi help llaw yn ystod digwyddiadau codi arian.
- Cyfrannu’n ariannolMae cyfraniadau yn helpu i gynnal ac ehangu’r gwasanaeth, fel y gall Beicio i Bawb barhau i ddarparu cyfleoedd beicio hygyrch.
- Codi arian:helpu i godi arian ar gyfer offer a gwaith cynnal hanfodol drwy gynnal eich digwyddiad codi arian eich hun neu noddi digwyddiad.
- Cyfrannu eitemau i godi arian:Cyfrannu eitemau i godi arian: Cyfrannu gwobrau ar gyfer rafflau a digwyddiadau elusennol.
- Lledaenu’r gair:Dywedwch wrth bawb am y gwasanaeth beicio hygyrch a gwaith Beicio i Bawb ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos Elusennau Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am sut gallech chi gefnogi Beicio i Bawb neu i gymryd rhan yn ystod Wythnos Elusennau Cymru, ewch i www.cycling4all.org neu ffoniwch 01978 757524.