Mae Pŵer Pedal, y gwasanaeth beicio pob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, yn falch o gyhoeddi y bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn ac y bydd 2 ychwanegiad cyffrous i’r gwasanaeth.
From Thursday 18fed O ddydd Iau, 18 Mai, bydd y gwasanaeth ar agor bob dydd Iau tan yr hydref 2023. Roedd Pŵer Pedal ar agor am 2 ddiwrnod yr wythnos yn unig o’r blaen, sef bob dydd Mercher a dydd Gwener, ond o ganol mis Mai bydd dyddiad ychwanegol yn cael ei ychwanegu i’r calendr.
Mae’r gwasanaeth yn gobeithio y bydd modd neilltuo dydd Iau ar gyfer grwpiau ac mae’n annog grwpiau fel colegau, ysgolion, cartrefi gofal, grwpiau byw’n annibynnol a grwpiau iechyd i ymweld â’r gwasanaeth ac archebu teithiau.
Mae Pŵer Pedal yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau oherwydd bod gan y gwasanaeth fflyd o feiciau arbenigol a safonol sy’n addas i bobl o bob gallu ac mae’r llwybr beicio di-draffig o amgylch y parc yn gymharol wastad.
Gallwch archebu sesiynau beicio ar gyfer grwpiau drwy ffonio Pŵer Pedal ar 07908 325 508 neu drwy e-bostio alex.foden@cycling4all.org. alex.foden@cycling4all.org.
Diolch i arian gan Comic Relief, gan ddechrau ar 27 Mai, bydd Pŵer Pedal hefyd yn agor bob bore Sadwrn i gynnig gwersi reidio beic am ddim.
Cynhelir 2 sesiwn dysgu reidio bob bore Sadwrn, 10am – 11am ac 11am – 12 pm, ac mae’r sesiynau ar gyfer pobl o bob oedran. Dylai dysgwyr ddod â’u beic a’u helmed eu hunain os oedd ganddynt rai, neu mae gan Pŵer Pedal rai y gallwch y defnyddio os oes angen.
Mae’n gyfle gwych i rieni /gofalwyr ddysgu sut gallant helpu eu plentyn i ddysgu reidio beic. Gofynnir i rieni/gofalwyr aros drwy gydol y sesiwn a gwisgo esgidiau addas oherwydd bydd angen gwneud rhywfaint o redeg!
Rhaid archebu ymlaen llaw drwy gysylltu â Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524 neu e-bostio info@groundworknorthwales.org.ukinfo@groundworknorthwales.org.uk