Mae Pŵer Pedal, y gwasanaeth seiclo bob gallu elusennol ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, wedi codi dros £2,500 yn ei Ffair Nadolig a gynhaliwyd yn The Courtyard, Ystad Eaton Grosvenor trwy ganiatâd caredig Dug Westminster. Mae’r arian hwn yn hanfodol er mwyn cynorthwyo i gynnal gwaith y gwasanaeth elusennol hwn.

Cafodd gwesteion yn y digwyddiad ddydd Mercher diwethaf eu cyfarch gan gefnogwr Pŵer Pedal yn canu’r holl ffefrynnau Nadoligaidd. Darparwyd bwrdd o fwyd gwych Nadoligaidd gan Caffi Cyfle, Wrecsam ac roedd masnachwyr lleol yn gwerthu nwyddau Nadolig gwych.

Ni fyddai wedi bod yn bosibl cynnal y digwyddiad heb nawdd hael gan Steve Thompson o gwmni Zero Drytime Wrecsam. Dywedodd Steve Thompson

“Mae Pŵer Pedal yn wasanaeth lleol gwych ac felly roedd yn fraint gallu cefnogi digwyddiad mor arbennig”.

Dywedodd Helen Wright, Cadeirydd Pŵer Pedal

“Dyma ein digwyddiad codi arian cyhoeddus cyntaf ers Covid. Mae wedi bod yn wych gweld pawb yn dod at ei gilydd i godi arian ar gyfer yr elusen. Roedd gweld pawb yn dangos eu cefnogaeth i wasanaeth mor werthfawr yn ein cymuned yn arbennig iawn”.

Mae Pŵer Pedal ar agor bob dydd Mercher a dydd Gwener ac mae’n cynnig gwasanaeth llogi beiciau arbenigol a safonol i’w defnyddio ar drac seiclo di-draffig. Gall seiclwyr fwynhau’r buddion iechyd a lles a hynny ar lwybr seiclo diogel.

Mae’r fflyd yn cynnwys beiciau arbenigol fel beiciau tair-olwyn, beiciau ochr-yn-ochr, beiciau cadair olwyn, ynghyd â beiciau safonol, beiciau mynydd a beiciau trydan y gellir eu llogi. Cefnogir y gwasanaeth gan swyddog seiclo dynodedig a gwirfoddolwyr gwych sy’n helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i’r beic gorau ar gyfer eu hanghenion.

I gael rhagor o wybodaeth am Pŵer Pedal, ewch i’r wefan www.cycling-4-all.org neu edrychwch am yr elusen ar Facebook a Twitter. www.cycling-4-all.org or find them on Facebook and Twitter.

cy