Cynhelir Parêd Pwer Pedal mewn ychydig wythnosau felly dyma gyfle da i rannu enwau rhai o'r busnesau a sefydliadau gwych sydd wedi ymuno yn yr hwyl. Bydd yr holl greadigaethau anhygoel i'w gweld yn ystod Wythnos y Beic (10 – 16 Mehefin) ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, LL11 4AG.

➡ Litegreen LTD

➡ Zero Drytime Wrexham

➡ WeMindTheGap

➡ Acton Resource Centre

➡ 1st Brynteg Brownies

➡ West Cheshire and North Wales Chamber of Commerce

➡ Groundwork North Wales – Youth Team

➡ Refurbs

➡ Buckley Knitters

Mae grwpiau a busnesau lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y cyfle unigryw hwn i ddangos eu doniau artistig, a hyrwyddo cynaliadwyedd ar yr un pryd. Does dim tâl i gymryd rhan, a gall busnesau ddewis cefnogi Beicio i Bawb hefyd drwy wneud cyfraniadau elusennol.

Cynhelir Parêd Pŵer Pedal diolch i nawdd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chefnogaeth ychwanegol gan Cadwyn Clwyd, AVOW, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Zero Dry Time collecting their bike.

cy