Mae Beicio i Bawb, yr elusen o Wrecsam sy’n darparu profiadau beicio cynhwysol, wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal "Parêd Pŵer Pedal" yn ystod Wythnos y Beic 2024 (10 - 16 Mehefin) ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, diolch i nawdd hael gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd Parêd Pŵer Pedal yn trawsnewid Parc Dyfroedd Alun yn atyniad lliwgar a fydd yn cynnwys beiciau wedi’u haddurno gan grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion, a busnesau lleol. Nod y digwyddiad arloesol hwn yw dod â’r gymuned at ei gilydd i hybu lles, cynaliadwyedd amgylcheddol a thrafnidiaeth gynaliadwy. Gall y rhai sy’n cymryd rhan ac ymwelwyr grwydro drwy’r parc yn chwilio am y beiciau creadigol, gan hybu ffordd o fyw iach ac egnïol, a chysylltu â’r gymuned leol ar yr un pryd.

Mae Hanna Clarke, Arweinydd Prosiect Parêd Pŵer Pedal, yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad, a dywedodd, "Rydym yn methu aros i ddathlu ymdrechion creadigol y gymuned, a gweld mae pawb wedi mynd ati i drawsnewid beiciau a fyddai fel arall wedi cael eu hanfon i safleodd tirlenwi, yn ddarnau celf. Mae’r parêd yn fwy nag arddangosfa; mae’n gyfle i hybu ailddefnyddio a chynaliadwyedd ac annog pawb i ddod allan i’r awyr agored i fwynhau a hyrwyddo ffordd iach o fyw."

Mae grwpiau a busnesau lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y cyfle unigryw hwn i ddangos eu doniau artistig, a hyrwyddo cynaliadwyedd ar yr un pryd. Does dim tâl i gymryd rhan, a gall busnesau ddewis cefnogi Beicio i Bawb hefyd drwy wneud cyfraniadau elusennol.

In addition to bike decoration, community workshops will be hosted at various locations, allowing everyone to contribute to this exciting event:

Yn ogystal ag addurno’r beiciau, cynhelir gweithdai cymunedol mewn gwahanol leoliadau, gan roi cyfle i bawb gyfrannu i’r digwyddiad cyffrous hwn:       

Parc Gwledig Dyfroedd Alun Dydd Mawrth, 28 Mai 11:00 am – 2:00 pm

Parc Gwledig Dyfroedd Alun Dydd Iau, 30 Mai 11:00 am – 2:00 pm

Os hoffech gael rhagor am fanylion am sut gallwch gymryd rhan ac addurno beic, cysylltwch â Hanna Clarke ar 01978 757 524 neu Hanna.clarke@cycling4all.org. Ewch i www.cycling4all.org neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf, syniadau ac ysbrydoliaeth.

Cynhelir Parêd Pŵer Pedal diolch i nawdd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chefnogaeth ychwanegol gan Cadwyn Clwyd, AVOW, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Photograph shows UareUK bike from the 2023 Pedal Power Parade

cy