Roedd Pŵer Pedal yn falch iawn o gyrraedd rownd derfynol Sefydliad y Flwyddyn yng ngwobrau Elusennau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2023.
Llongyfarchiadau i’r enillydd teilwng, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, a enillodd wobr Sefydliad y Flwyddyn am gyflawni cymaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r elusen hon yn uchel ei pharch ac yn cael ei hedmygu gan lawer o sefydliadau eraill.
Fel rhan o’r broses, cafodd fideo gwych o wasanaeth Pŵer Pedal ei gynhyrchu, yn crynhoi ysbryd Pŵer Pedal ac yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol Pŵer Pedal ar ddefnyddwyr y gwasanaeth, gan ddangos sut rydym yn newid bywydau er gwell.
Gwyliwch ein fideo YMA i weld pa mor hygyrch gall feicio fod YMA