Diolch i arian gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a weinyddir gan CGGC, mae cynllun Cyfnewid Beiciau Pŵer Pedal nôl mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Dyma gyfle gwych i blant gael beic o’r maint cywir mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
Gall prynu beic newydd o’r maint cywir i blentyn fod yn gostus iawn, ac mae Cyfnewid Beiciau yn cynnig dewis arall am ddim i deuluoedd. Gall teuluoedd roi beic nad oes ei angen arnynt mwyach i’r gwasanaeth Cyfnewid Beiciau a chael beic newydd yn ei le (os oes un ar gael). Bydd yr holl feiciau sy’n cael eu cyfnewid yn cael eu harchwilio gan fecanydd Cytec cymwys. Rydym hyd yn oed yn cynnig helmed AM DDIM gyda phob beic!
Dylai teuluoedd lleol sy’n dymuno cymryd rhan yn y cynllun gysylltu â Pŵer Pedal drwy ffonio 07908 325 508 07908 325 508 a gadael neges neu gellir anfon neges drwy’r dudalen Cysylltu â Ni a bydd aelod o’r Tîm yn cysylltu â chi. Cysylltwch â Ni a bydd aelod o’r Tîm yn cysylltu â chi.
Y nod yw helpu teuluoedd sy’n cael trafferth ymdopi â’r argyfwng costau byw ac atal beiciau nad oes ar neb eu hangen mwyach rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.
Os nad oes gan deuluoedd feic i’w gyfnewid, mae croeso iddynt gael sgwrs â’r Tim i weld sut gallant helpu