Mae Beicio i Bawb / Cycling 4 All yn ffodus iawn i gael canwr a pherfformiwr gwych ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Daeth Nigel Reader yn Ymddiriedolwr i’r elusen sy’n rhedeg Pŵer Pedal, y gwasanaeth beicio bob gallu, yn 2019.

Un o’r ffyrdd mae Nigel yn cefnogi Pŵer Pedal yw drwy ganu. Mae’n codi arian drwy berfformio a gwerthu ei CDs mewn cartrefi gofal ac yng nghlwb cinio Lunch and Co. sy’n cael ei redeg gan Groundwork Gogledd Cymru. Mae’n cyfrannu’r arian hwn i’r elusen bob tri mis.

Roedd y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022 yn gynhyrchiol iawn i Nigel, ac fe berfformiodd 14 gwaith mewn 7 sefydliad gwahanol. Llwyddodd i godi £425 i’r elusen yn ystod y 3 mis hwn yn unig.

Mae Nigel wedi gosod targed personol i godi £1,000 erbyn diwedd y flwyddyn ac mae’n edrych yn debygol iawn y bydd yn cyflawni’r nod hwn.

Mae Pŵer Pedal yn dymuno diolch i Nigel am ei ymdrechion gwych ac am bopeth mae’n ei wneud i gefnogi’r elusen.

cy