Groundwork Gogledd Cymru yn cynnal Cinio Fasgiau ar 17 Chwefror 2023 i gefnogi’r gwasanaeth beicio bob-gallu Pŵer Pedal.

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn cynnal digwyddiad codi arian cyffrous arall, sef Cinio Fasgiau i godi arian ar gyfer Pŵer Pedal, y gwasanaeth beicio bob-gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.

Byddwn yn gofyn i westeion ddod ag ychydig o ddirgelwch i’r achlysur drwy wisgo masgiau a dillad crand! Bydd y Cinio Fasgiau yn noson o giniawa crand, dawnsio, gemau a mwy, gyda phawb yn gwisgo masgiau.

Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty Rossett Hall, Yr Orsedd, Wrecsam, LL12 0DE, nos Wener, 17 Chwefror 2023, am 7pm. Pris y tocynnau yw £40 y pen gan gynnwys derbyniad diodydd, cinio 3-chwrs, cystadleuaeth fwrdd, raffl ac ocsiwn elusennol yn ogystal â dawnsio tan yr hwyr.

Mae gwasanaeth seiclo Pŵer Pedal ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun Wrecsam, yn cynnig hwyl, therapi a chyfleoedd i bobl o bob gallu. Mae gan y gwasanaeth amrywiaeth o feiciau dwy-olwyn a thair-olwyn ynghyd â llwybr seiclo diogel sy’n helpu oedolion a phlant ag anableddau a chyflyrau iechyd gwahanol i gymryd rhan mewn ymarfer corff, cyflawni eu nodau a chael hwyl ar yr un pryd. Nid yw Pŵer Pedal yn derbyn unrhyw nawdd cyhoeddus ac mae’n gwbl ddibynnol ar ddigwyddiadau codi arian a chyfraniadau.

Dylai cefnogwyr sy’n dymuno prynu tocynnau ar gyfer y Cinio Fasgiau gysylltu â’r tîm marchnata yn Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524 neu e-bostio info@groundworknorthwales.org.uk

Mae Groundwork Gogledd Cymru hefyd yn gofyn am gefnogaeth a nawdd gan fusnesau lleol ac yn gofyn i gwmnïau neu fudiadau lleol sy’n dymuno helpu i gysylltu â nhw - 01978 757524 neu e-bostiwch info@groundworknorthwales.org.uk

cy