Cynhaliwyd cinio Masgiau elusennol nos Wener, 17 Chwefror, yng Ngwesty Rossett Hall i gefnogi’r gwasanaeth beicio pob gallu sy’n cael ei redeg gan yr elusen Beicio i Bawb.
godi £1,300 a fydd yn helpu i gynnal gwasanaeth Pŵer Pedal ac yn cyfrannu at gostau gwaith cynnal a thrwsio’r beiciau dwy-olwyn a thair-olwyn sydd wedi’u haddasu’n arbennig.
Dywedodd Karen Balmer, Prif Weithredwr Groundwork Gogledd Cymru ac Ymddiriedolwr Pŵer Pedal:
“Mae’r elusen yn hynod o falch o’r gefnogaeth a gafwyd gan fusnesau lleol a’r gymuned, a’r gwobrau gwych a gyfrannwyd i’r ocsiwn a’r raffl. Roedd noddwyr y noson yn cynnwys Gallaghers, Coxey’s, Arrow Communications, Tesco a 3 Sir Gysylltiedig. Hoffem ddiolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth hael.”
Mae Beicio i Bawb yn elusen sy’n cynnig cyfleoedd beicio unigryw i bawb heb unrhyw arian gan y Llywodraeth ac mae’n rhaid iddi godi arian i gynnal y gwasanaeth. Lleolir y gwasanaeth ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ac mae’n berchen ar fflyd o feiciau safonol ac arbenigol.
Gall cwsmeriaid deithio ar hyd y trac beicio didraffig o amgylch y parc i fwynhau buddion beicio mewn man diogel. Mae’r amrywiaeth o feiciau dwy-olwyn a thair-olwyn arbenigol yn helpu pobl â galluoedd a chyflyrau iechyd gwahanol i gadw’n heini, cyflawni nodau a chael hwyl ar yr un pryd.
Bydd Pŵer Pedal yn cynnal digwyddiad codi arian arall ar 28fed Tachwedd felly os hoffech gefnogi’r gwasanaeth – a mwynhau noson o hwyl a siopa tymhorol, cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.
Os hoffech gefnogi Pŵer Pedal, ffoniwch y gwasanaeth ar 07908325508, cysylltwch drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu ewch i www.cycling-4-all.org . Cefnogir Pŵer Pedal gan Groundwork Gogledd Cymru, rhif ffôn