Diolch i gyllid gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a weinyddir gan CGGC, mae Pŵer Pedal yn falch o gyhoeddi bod y sesiynau Dysgu Reidio Beic am ddim yn ôl.
Nod gwasanaeth beicio Pŵer Pedal yw annog pobl i gael hwyl, therapi a theimlad o gyflawniad drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau beicio fel y sesiynau hyn, sy’n annog y gymuned leol i gymryd rhan. Nod y mentrau hyn yw annog pobl ifanc i ymddiddori ym myd beicio gan feithrin teimlad o gyfrifoldeb am eu cymuned a’r amgylchedd.
Bydd y sesiynau yn dechrau ar 30 Mawrthfedac yn cael eu cynnal bob dydd Sadwrn tan 27 Ebrill.fedMae’r sesiynau ar agor i bobl o bob oed, a gofynnwn i rieni/gofalwyr aros gyda’u plentyn/plant yn ystod y sesiwn a gwisgo dillad addas gan y bydd angen iddynt wneud tipyn o redeg!
Gallwch ddod â’ch beic a’ch helmed eich hun, neu mae gennym rai y gallwch eu benthyg.
Os hoffech gymryd rhan, rhaid archebu lle ymlaen llaw. Cysylltwch â’r tîm Beicio i Bawb ar 01978 757524 / hanna.clarke@cycling4all.org
Mae Beicio i Bawb ar agor bob dydd Mercher a dydd Gwener ac mae ganddo fflyd o feiciau safonol ac arbenigol, gan gynnwys beiciau tair olwyn, beiciau llaw, beiciau cadair olwyn a beiciau ochr-yn-ochr. Mae llwybr beicio di-draffig yn rhedeg o amgylch y parc lle gall ein cwsmeriaid fwynhau buddion beicio mewn lle diogel.
Mae elusen Pŵer Pedal hefyd yn gofyn i bobl gyfrannu hen feiciau sydd mewn cyflwr da fel rhan o’i menter Cyfnewid Beiciau. Nod y fenter hon yw lleihau nifer y beiciau sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.