Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymweld â Chaffi Cyfle a Pŵer Pedal

Ddydd Iau, 18 Awst,fed croesawyd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davis, i Pŵer Pedal a Chaffi Cyfle gan Karen Balmer, Prif Weithredwr Grŵp Groundwork Gogledd Cymru ac Ymddiriedolwr Pŵer Pedal.

Daeth Andrew i Barc Gwledig Dyfroedd Alun i weld y gwaith mae Grŵp Groundwork Gogledd Cymru wedi ei wneud i gefnogi a datblygu Caffi Cyfle, sydd ar safle’r parc gwledig.

Mae Caffi Cyfle yn gwerthu bwyd blasus, tymhorol ac iach y gall pawb ei fwynhau, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cynhwysol i’r gymuned ehangach gymryd rhan mewn rhaglenni gwaith a gwirfoddoli. Mae’r pwyslais ar ddefnyddio cynhwysion ffres lleol o ffynonellau cynaliadwy a chefnogi cyflenwyr Cymreig.

Ar ôl ymweld â’r caffi, aeth Andrew i ymweld â Pŵer Pedal, y gwasanaeth seiclo bob gallu yn y parc. Cafodd gyfle i gyfarfod y staff a’r gwirfoddolwyr a rhoi cynnig ar un o’r beiciau arbenigol er mwyn gweld drosto ei hun pam mor hygyrch yw seiclo.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies:

“Mae’n wych gweld y gwaith mae’r tîm Pŵer Pedal yn ei wneud yma, yn darparu offer a lleoliad gwych lle gall pobl o bob gallu fwynhau seiclo mewn amgylchedd diogel a phrydferth. Mae’r tîm yn frwd iawn dros seiclo a sicrhau y gallu pawb fwynhau, ni waeth beth yw eu gallu.”

Mae Pŵer Pedal yn elusen leol sy’n cynnig cyfleoedd seiclo bob gallu, mae’n dibynnu ar gyfraniadau arian a grantiau i gynnal ei hun ac mae’n derbyn cefnogaeth gan Groundwork Gogledd Cymru.

cy