Mae Pŵer Pedal yn falch iawn o gyhoeddi menter newydd a chyffrous, diolch i gefnogaeth hael y Co-Op. Byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau Beicio a Lles er mwyn annog mwy o bobl i feicio a byw’n iach.
Nod ein sesiynau beicio a lles newydd yw eich cyflwyno i fuddion anhygoel ymarfer corff drwy feicio. Byddwn hefyd yn cynnig cyflwyniadau ar fwyta’n iach gan roi sgiliau a gwybodaeth hanfodol i’ch helpu i baratoi prydau maethlon a iach, ynghyd â chyngor ac arweiniad ar eich lles unigol.
🚴♀️ Beicio ar gyfer Ffitrwydd: O roi hwb i’ch ffitrwydd i wella eich lles meddyliol, byddwch yn dysgu sut gall beicio rheolaidd wella eich ffitrwydd a’ch lles cyffredinol.
🍏 Cyflwyniad ar Fwyta’n Iach: Yn dilyn pob sesiwn beicio, bydd cyfle i chi ddysgu sut i baratoi prydau blasus a maethlon. Bydd ein cyflwyniadau coginio yn rhoi sgiliau ymarferol a syniadau i chi am sut i goginio’n iach ar gyllideb, fel y gallwch wneud dewisiadau deietegol gwybodus sy’n cynnal ffordd o fyw egnïol.
💡 Gweithdy Lles: Gweithdy anffurfiol sy’n canolbwyntio ar les personol, lle byddwch yn cael cynor ac awgrymiadau gwerthfawr i’ch helpu yn eich bywyd bob dydd. Dewch i ddysgu am dechnegau a strategaethau syml a hawdd i leihau straen a chael agwedd gadarnhaol.
Ymunwch â ni ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ar y dyddiadau canlynol:
10 Mai
24 Mai
June 28
5 Gorffennaf
12 Gorffennaf
Bydd y sesiynau yn dechrau am 11 am yn Pŵer Pedal, gan ddilyn gyda’r cyflwyniad coginio, cinio, a’r gweithdy lles yn yr ystafell gynadledda yn Nyfroedd Alun. Gorau oll – mae’r holl sesiynau am ddim!
I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle, e-bostiwch info@cycling4all.org neu ffoniwch 07908 325 508. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.