Mae Groundwork Gogledd Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal ei ddigwyddiad Nadolig blynyddol i godi arian i elusen leol ar 28 Tachwedd eleni. Bydd yn codi arian y mae mawr ei angen ar gyfer Pŵer Pedal, yr elusen beicio pob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam.
Bydd yr elusen yn cynnal Basâr Nadolig nos Fawrth, 28fed Tachwedd 2023, mewn lleoliad unigryw iawn (gallwn roi manylion os gofynnir amdanynt). I ddathlu hwyl yr ŵyl bydd cyfle i wneud ychydig o siopa Nadolig, mwynhau adloniant, gwydraid o ddiod pefriog, byrbrydau Nadoligaidd, a chymryd rhan mewn raffl fawreddog, a’r cyfan mewn lleoliad arbennig iawn. Pris y tocynnau fydd £18 y pen.
Mae gwasanaeth beicio Pŵer Pedal ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam, yn cynnig hwyl, therapi a theimlad o gyflawniad i bobl o bob gallu. Mae gan y gwasanaeth bob math o feiciau arbenigol a beiciau tair-olwyn, ynghyd â llwybr beicio diogel i helpu oedolion a phlant â galluoedd a chyflyrau iechyd gwahanol i wneud ymarfer corff, cyflawni nodau a chael hwyl ar yr un pryd.
Dywedodd Helen Wright, Cadeirydd Beicio i Bawb / Pŵer Pedal, “Dydy elusen Pŵer Pedal ddim yn derbyn arian cyhoeddus ac mae’n dibynnu’n gyfan gwbl ar gyfraniadau a gweithgareddau codi arian. Mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n galed iawn i drefnu’r digwyddiad Nadoligaidd gwych yma i gefnogi Pŵer Pedal; mae bob amser yn boblogaidd iawn, felly ewch ati i brynu eich tocynnau’n fuan. “
I brynu tocynnau a chefnogi gwasanaeth gwerthfawr Pŵer Pedal, ffoniwch y tîm marchnata yn Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524 neu anfonwch e-bost info@groundworknorthwales.org.uk
Mae Groundwork Gogledd Cymru hefyd yn gofyn am gefnogaeth gan fusnesau lleol, felly os hoffai unrhyw gwmni neu sefydliad helpu drwy gyfrannu gwobrau ar gyfer y Raffl Fawr a’r raffl, mae croeso iddynt ffonio 01978 757524 neu e-bostio info@groundworknorthwales.org.uk