Mae Pete Kennedy wedi gweithio fel Swyddog Beicio Pŵer Pedal am dros 5 mlynedd; ymunodd â’r sefydliad yn 2018 ar ôl gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth cyn hynny.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Pete ymddeol yn swyddogol fel ein Swyddog Beicio, er ein bod yn gwybod y byddwn yn dal i’w weld yn Pŵer Pedal yn y dyfodol.

Ar ôl gweithio i gwmni Shotton Paper am y rhan fwyaf o’i yrfa, un o ddiddordebau mawr Pete oedd reidio ei feic ar hyd cefn gwlad gogledd Cymru. Cafodd gyfle i gyfuno ei angerdd dros seiclo a helpu pobl pan ymunodd â Pŵer Pedal.

Dywedodd Karen Balmer, Ymddiriedolwr Beicio i Bawb,

“Mae Pete wedi gwneud cyfraniad gwych i Pŵer Pedal, byddwn yn gweld eisiau ei arbenigedd, ei amynedd a’i frwdfrydedd. Rydym yn dymuno’r gorau iddo ar ei ymddeoliad”.

Mae’n amlwg iawn cymaint o feddwl sydd gan bobl ohono. Mae’r holl wirfoddolwyr wedi dweud y byddan nhw’n gweld eisiau Pete yn fawr iawn, a hynny am sawl rheswm: mae’n gwybod cymaint am feicio pob gallu, mae wedi treulio llawer o amser yn helpu gwirfoddolwyr ac mae’n amyneddgar ac yn garedig wrth roi cymorth i gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Rydym wedi derbyn llawer o negeseuon hyfryd gan bobl sydd eisiau dymuno’r gorau i Pete a mynegi eu gwerthfawrogiad a’u diolch iddo am fod mor groesawgar ac am ei gymorth anhygoel

Mae pawb yn ei adnabod fel ‘Pete Pedal Power’, ei lysenw am byth, ac rydym yn siŵr y byddwn yn ei weld yn Pŵer Pedal cyn bo hir

cy