Ymunwch â ni am noson o hwyl yr ŵyl yn ein Ffair Nadolig, gan godi arian ar gyfer Beicio i Bawb, elusen beicio pob gallu Wrecsam, sy’n darparu gwasanaeth beicio cynhwysol Pŵer Pedal ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam.
Cynhelir y digwyddiad arbennig hwn nos Fercher, 27 Tachwedd, rhwng 6:30pm a 9pm – mae’n argoeli i fod yn noson o hwyl ac ysbryd cymunedol, ac yn gyfle hefyd i wneud gwahaniaeth – a hynny mewn lleoliad hardd ac unigryw (manylion ar gael os gofynnwch amdanynt).fed November from 6:30pm – 9pm, this magical evening promises festive cheer, community spirit and a chance to make a difference – all at a stunning, exclusive venue (details provided upon request).
Ar ôl cyrraedd, bydd gwydraid o ddiod swigod ar gael i’r gwesteion. Bydd Caffi Cyfle yn darparu danteithion blasus, a bydd cyfle i brynu pob math o anrhegion ac eitemau unigryw yn y farchnad Nadolig – y lle delfrydol i ddod o hyd i anrhegion arbennig i’ch teulu a ffrindiau tra’n cefnogi cynhyrchwyr lleol. Pris y tocynnau yw £20, bydd hon yn noson i’w chofio!
Bydd cyfle hefyd i ennill anrhegion gwych yn ein raffl fawr, e.e. diwrnod sba moethus i ddau yn Spa by Kasia (gwerth hyd at £250), hamperi bwyd a diod moethus, a hamperi hunan-ofal. Gallwch brynu tocynnau raffl ar y noson neu ymlaen llaw gan Beicio i Bawb, a bydd yr holl elw yn mynd i gefnogi gwaith pwysig Pŵer Pedal i newid bywydau.
Dywedodd Helen Wright, Cadeirydd Pŵer Pedal:
“Mae Pŵer Pedal yn dibynnu’n llwyr ar godi arian a chyfraniadau er mwyn parhau i gynnig ein gwasanaethau hanfodol. Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed iawn y tu ôl i’r llenni i wneud y Ffair Nadolig hon yn ddigwyddiad arbennig iawn i gefnogi Pŵer Pedal. Mae’r noson bob amser yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr tymhorol, felly ewch ati i brynu eich tocynnau yn fuan.”
Mae Pŵer Pedal yn cynnig profiad beicio diogel a chynhwysol, bob dydd Mercher a dydd Gwener, ac mae fflyd o feiciau arbenigol, beiciau tair-olwyn, a beiciau trydan ar gael i’w llogi. Mae’r swyddogion beicio a’r gwirfoddolwyr yn angerddol dros helpu beicwyr o bob gallu i fwynhau buddion iechyd beicio mewn amgylchedd diogel, heb draffig.
Peidiwch â cholli’r cyfle i gefnogi Pŵer Pedal a dechrau’r dathliadau tymhorol yn ein Ffair Nadolig. Os hoffech brynu tocynnau neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524 neu e-bost info@groundworknorthwales.org.uk . Mae croeso i fusnesau lleol sy’n dymuno cyfrannu anrhegion ar gyfer y raffl gysylltu â ni hefyd.
Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy i ddathlu hwyl yr ŵyl, a chefnogi achos da iawn ar yr un pryd.