Mae Beicio i Bawb, elusen sy’n cynnig profiadau beicio unigryw i bobl o bob gallu, yn falch iawn o gyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau cyffrous ar gyfer y flwyddyn i ddod. Nod ei gwasanaeth beicio, Pŵer Pedal, yw annog hwyl, therapi a theimlad o gyflawniad drwy weithgareddau beicio.

Diolch i nawdd gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a weinyddir gan CGGC, mae’n bleser gan Beicio i Bawb gynnig cyfleoedd Gwirfoddoli i Bobl ifanc a sesiynau Dysgu Reidio Beic am ddim. Nod y mentrau hyn yw annog pobl ifanc i ymddiddori yn myd beicio gan feithrin teimlad o gyfrifoldeb cymunedol ac amgylcheddol ar yr un pryd.

Cyfleoedd Gwirfoddoli i Bobl Ifanc: Mae Beicio i Bawb yn gwahodd pobl ifanc brwdfrydig i ymuno â’r elusen ar gyfer profiad gwirfoddoli gwerth chweil. Mae’r rhaglen yn cynnig llawer o fuddion, gan gynnwys:

  • Dysgu sut i gynnal Beic: Cyfle i gael profiad ymarferol a dysgu sut i gynnal beic.
  • Cymwysterau: Ennill cymhwyster cynnal beic i wella eich sgiliau.
  • Gwaith ar y Safle: Cyfle i gyfrannu i’r gymuned a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar y safle.
  • Arweiniad a Chymorth: Bydd mentoriaid profiadol yn cynnig arweiniad ar bob cam o’r ffordd.
  • Darperir lluniaeth: Cyfle i fwynhau lluniaeth am ddim yn ystod sesiynau

Cynhelir y sesiynau gwirfoddoli bob dydd Mawrth, ac mae croeso i unigolion 14-18 a grwpiau ysgol 11-16 oed gymryd rhan. Os hoffech wirfoddoli neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rob Pullen ar 07908 325 508 neu rob.pullen@cycling4all.org.

Sesiynau Dysgu Reidio Beic: Cynhelir sesiynau Reidio Beic Beicio i Bawb bob dydd Sadwrn, rhwng 30fed Mawrth a 27fed Ebrill. Mae cyfranogwyr yn cael eu hannog i ddod â beic a helmed gyda nhw, ond bydd offer ar gael os oes angen. I gael rhagor o wybodaeth neu archebu lle, cysylltwch â Hanna Clarke ar 01978 757524 neu hanna.clarke@cycling4all.org.

Cyrsiau Hyfedredd Beic: Mae Beicio i Bawb yn falch o gyflwyno’r cyrsiau newydd hyn eleni ar gyfer pobl ifanc 8-16 oed, diolch i arian gan Loteri Cod Post y BoblCynhelir y cyrsiau yn ystod y gwyliau ysgol ar 4fed , May 30fed Awst 1st , Awst 22nd  rhwng 10 am a 3 pm, a byddant yn canolbwyntio ar sgiliau reidio beic, diogelwch y ffordd, a sut i gynnal beic. Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan allu reidio beic heb gymorth. I gael rhagor o wybodaeth neu archebu lle, cysylltwch â Hanna Clarke ar 01978 757524 neu hanna.clarke@cycling4all.org.

Mae Beicio i Bawb wedi ymroi i greu cyfleoedd beicio cynhwysol sy’n annog iechyd a lles, ac ymgysylltiad cymunedol. Ymunwch â’n cenhadaeth i sicrhau bod beicio ar gael i bawb!

cy