Mae Pŵer Pedal yn falch o gyhoeddi cyfres o sesiynau beicio a lles ar gyfer grwpiau cymunedol, diolch i gefnogaeth hael Sefydliad Cymunedol Cymru.
Nod y sesiynau beicio a lles yw dangos y buddion gwych sy’n gysylltiedig ag ymarfer corff drwy feicio, cyflwyno arddangosiadau bwyta’n iach i roi’r wybodaeth a’r sgiliau iddynt baratoi prydau iach a maethlon, a rhoi cyngor ac arweiniad ar les.
Mae’r sesiynau hyn am ddim ac ar agor i grwpiau cymunedol sy’n darparu ar gyfer unigolion sy’n fwy tebygol o gael trafferth cael mynediad i weithgareddau lles, gan gynnwys pobl sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl, anableddau, a/neu gyflyrau iechyd. Mae’r sesiynau yn gyfle i gael hwyl, cyfarfod pobl eraill, a dysgu sgiliau drwy gymryd rhan mewn ymarfer corff, gweithgareddau, a mwynhau pryd o fwyd gyda’i gilydd.
Gan ddechrau gyda sesiwn beicio fydd yn defnyddio’r rhwydwaith o lwybrau beicio yn Nyfroedd Alun, gall pawb sy’n cymryd rhan fwynhau beicio mewn amgylchedd naturiol, di-draffig. Yna bydd y grŵp yn dod ynghyd i wylio arddangosiad coginio byw a rhyngweithiol, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau a mwynhau pryd iach. I gloi’r diwrnod, cynhelir gweithgareddau grŵp sy’n canolbwyntio ar les yr unigolyn, gan gynnwys technegau syml i leihau straen a strategaethau hawdd eu defnyddio i feithrin agwedd gadarnhaol.
Bydd y sesiynau yn galluogi’r cyfranogwyr i elwa ar fuddion corfforol a meddyliol beicio, gan gynnwys gwella cryfder, ffitrwydd cardiofasgwlar a symudedd, tra’n lleihau symptomau straen, gorbryder ac iselder. Bydd y sesiynau hefyd yn meithrin amgylchedd anffurfiol a chymdeithasol lle gall y sawl sy’n cymryd rhan gysylltu ag eraill drwy’r gweithgareddau a thrafodaethau.
Cynhelir y sesiynau yn Pŵer Pedal, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, LL11 4AG ar y dyddiadau canlynol
- • 6 Mawrth, 11 am – 2 pm
- • 8 Mai, 11 am – 2 pm
- • 10 Gorffennaf, 11 am – 2 pm
- • 11 Medi, 11 am – 2 pm
- • 9 Hydref, 11 am – 2 pm
Os ydych chi’n aelod o grŵp neu’n gwybod am grŵp fyddai’n elwa ar un o’r sesiynau hyn mae croeso i chi gysylltu i gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech gadw lle cysylltwch â Hanna ar 01978 757524 neu hanna.clarke@cycling4all.org
🚴♀️ Beicio er budd Iechyd: O roi hwb i’ch ffitrwydd i wella eich lles meddyliol, dewch i weld sut gall beicio’n rheolaidd helpu eich ffitrwydd a’ch lles cyffredinol.
🍏 Arddangosiad Bwyta’n Iach: Ar ôl pob sesiwn beicio, ymunwch â ni i ddysgu sut i baratoi prydau blasus, maethlon. Mae ein harddangosiadau coginio yn cyflwyno sgiliau ymarferol a gwybodaeth am sut i fwyta’n iach ar gyllideb, fel y gall pobl wneud dewisiadau deietegol ar sail gwybodaeth fydd yn eu helpu i fyw mewn ffordd fwy actif.
💡 Gweithdy Lles: Gweithdy anffurfiol sy’n canolbwyntio ar les personol, gydag awgrymiadau a syniadau am sut i gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd. Dewch i ddysgu technegau syml i leihau straen a strategaethau hawdd eu defnyddio i feithrin agwedd gadarnhaol.


