Mae Beicio i Bawb, yr elusen beicio pob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam, wedi codi dros £2,800 yn ei Ffair Nadolig a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2025.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar Stad Eaton Grosvenor, diolch i ganiatâd caredig Dug a Duges Westminster, a chodwyd y swm gwych o £2,840 i gefnogi gwaith hanfodol yr elusen i gynnig cyfleoedd beicio i bobl o bob oed a gallu.
Croesawyd y gwesteion gyda gwydraid o win pefriog a cherddoriaeth Nadoligaidd wedi’i pherfformio gan Nigel Reader, un o ymddiriedolwyr Beicio i Bawb. Roedd cyfle i’r ymwelwyr fwynhau dewis blasus o fwyd tymhorol, wedi’i baratoi gan Caffi Cyfle, wrth iddynt grwydro o amgylch stondiau’r gwerthwyr lleol yn chwilo am anrhegion Nadolig.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Nigel Reader o Beicio i Bawb:
“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb ddaeth draw i’r Ffair Nadolig gan ein helpu i godi arian hanfodol i gefnogi gwasanaeth Pŵer Pedal. Rwy’n hynod o ddiolchgar hefyd i’r holl fusnesau lleol am gyfrannu gwobrau ac anrhegion hael, i’r stondinwyr a gymerodd ran, ac i’r gwirfoddolwyr am eu hymroddiad a’u gwaith caled i sicrhau bod y digwyddiad mor llwyddiannus.”
Mae Beicio i Bawb yn rhedeg y gwasanaeth Pŵer Pedal ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener. Mae gan y gwasanaeth fflyd o feiciau arbenigol a safonol, gan gynnwys beiciau tair-olwyn, beiciau ochr yn ochr, beiciau llaw, beiciau cadair olwyn, beiciau mynydd, a beiciau trydan.
Mae Pŵer Pedal yn cynnig cyfleoedd diogel a chynhwysol i bobl o bob oedran a gallu, gyda chymorth gwirfoddolwyr ymroddedig a swyddogion beicio. Mae’r gwasanaethau hyn yn galluogi cannoedd o bobl i gael hwyl, a mwynhau’r rhyddid a’r buddion iechyd o feicio mewn man diogel, di-draffig.
Nid yw Pŵer Pedal yn derbyn arian cyhoeddus, ac mae’n rhaid i’r elusen godi arian bob blwyddyn i gynnal y gwasanaeth hanfodol hwn a’i fflyd o feiciau arbenigol, y mae llawer ohonynt wedi cael eu defnyddio bellach am dros 16 blynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am Beicio i Bawb, neu os hoffech wirfoddoli neu wneud cyfraniad i gefnogi’r gwasanaeth hanfodol hwn, ewch i www.cycling4all.org www.cycling4all.org neu dilynwch Pŵer Pedal Wrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a manylion am ddigwyddiadau.