Cynhaliodd Beicio i Bawb, yr elusen beicio pob gallu o Barc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam, Ffair Nadolig lwyddiannus iawn ar 27 Tachwedd 2024. Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Courtyard, Stâd Eaton Grosvenor gyda chaniatâd caredig Dug a Duges Westminster, a chodwyd y swm anhygoel o £3,500 i gefnogi gwaith hanfodol yr elusen.

Wrth gyrraedd y digwyddiad, bu’r gwesteion yn mwynhau gwydraid o rywbeth pefriog ac yn gwrando ar Gôr Merched Delta yn perfformio rhai o ganeuon yr ŵyl. Roedd Caffi Cyfle wedi darparu gwledd o fwyd tymhorol ar gyfer y noson, ac roedd cyfle i bawb grwydro o amgylch y stondinau a phrynu anrhegion Nadolig unigryw gan werthwyr lleol.

Roedd Helen Wright, Cadeirydd Beicio i Bawb, yn ddiolchgar iawn i bawb:

“Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i’r Ffair Nadolig gan ein helpu i godi arian y mae gwirioneddol ei angen er mwyn cynnal gwasanaeth Pŵer Pedal. Diolch hefyd i’r holl fusnesau lleol a gyfrannodd wobrau a’r holl stondinwyr a ddaeth draw.”

Roedd Helen hefyd yn awyddus i ddiolch i fusnesau ac unigolion lleol am eu rhoddion hael o wobrau ac anrhegion, ac i’r holl wirfoddolwyr a weithiodd yn galed i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant.

Mae Beicio i Bawb ar agor bob dydd Mercher a dydd Gwener, ac mae’n cynnig fflyd o feiciau arbenigol a safonol, gan gynnwys beiciau tair-olwyn, beiciau ochr-yn-ochr, beiciau llaw, beiciau cadair olwyn, beiciau mynydd, a beiciau trydan. Mae’r gwasanaeth, a gefnogir gan swyddogion beicio a gwirfoddolwyr ymroddedig, yn darparu amgylchedd diogel, di-draffig, lle gall beicwyr fwynhau buddion beicio ni waeth beth yw eu hoedran neu eu gallu.

Wrth i Beicio i Bawb edrych ymlaen i ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2025, mae’r elusen yn edrych am gefnogaeth ychwanegol gan gwmnïau ac unigolion lleol er mwyn helpu i gynnal ei gwasanaethau a’i fflyd o feiciau pob gallu.

“Rydyn ni’n falch o’r effaith rydyn ni wedi’i chael dros y blynyddoedd, ond mae llawer mwy i’w wneud. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi ein gwaith, boed hyn drwy noddi, cyfrannu, neu wirfoddoli, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych,” ychwanegodd Helen.

I gael rhagor o wybodaeth am Beicio i Bawb, ewch i www.cycling4all.org neu dilynwch yr elusen ar Facebook a Twitter.

Dewch i ni wneud y flwyddyn bwysig hon yn un i’w chofio!

cy