Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr rhwng 3 a 9 Mehefin – wythnos i ddathlu gwirfoddolwyr a diolch am eu cyfraniadau gwerthfawr.

Rydym yn gwahodd holl wirfoddolwyr Beicio i Bawb i Ddyfroedd Alun, Wrecsam, i ddathlu’r gwaith gwych maent yn ei wneud. Bydd y digwyddiad arbennig hwn yn gyfle i anrhydeddu’r gwirfoddolwyr a diolch iddynt am roi eu hamser a’u hegni drwy gydol y flwyddyn.

Bydd y dathliad eleni yn ddigwyddiad i’w gofio, ac yn ogystal â bod yn gyfle i ddangos ein diolchgarwch, bydd adloniant a lluniaeth ar gael. Yn ystod y dathliad, bydd ymddiriedolwyr yr elusen yn diolch i’r holl wirfoddolwyr.

Dywedodd Karen Balmer (Ymddiriedolwr Beicio i Bawb): “Rydyn ni’n ffodus dros ben i gael grŵp o wirfoddolwyr sydd mor ymroddedig a brwdfrydig. Mae eu gwaith yn chwarae rhan allweddol i gynnal gwasanaeth Pŵer Pedal sy’n cael ei ddarparu gan Beicio i Bawb. Y dathliad hwn yw’r achlysur perffaith i ddiolch o galon i’n holl wirfoddolwyr am eu hymroddiad a’r amser maent yn eu roi mor hael.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Beicio i Bawb, mae croeso i chi gysylltu.

Ni waeth a ydych chi’n chwilio am brofiad gwaith a chyfle i ehangu eich gorwelion, neu rydych am wirfoddoli am ychydig oriau yr wythnos i gefnogi eich cymuned, gall Beicio i Bawb eich helpu chi i wneud rhywbeth arbennig.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwirfoddoli gyda ni YMA. ac ar ein cyfryngau cymdeithasol, neu cysylltwch â ni’n uniongyrchol ar 01978 757 524 | info@cycling4all.org a gofynnwch am wirfoddoli.

cy