Paratowch am antur gyffrous yn ystod Wythnos y Beic (10 – 16 Mehefin) ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun lle cynhelir Parêd Pŵer Pedal! Diolch i nawdd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r digwyddiad gwych hwn yn dychwelyd yn 2024 ac mae’n addo bod yn well nag erioed.
Mae Parêd Pŵer Pedal yn llwybr lliwgar o feiciau wedi’u haddurno’n greadigol a’u harddangos ar draws y parc *. Mae grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion, a busnesau lleol wedi dod ynghyd i drawsnewid beiciau cyffredin yn weithiau celf anhygoel. Nod y parêd eleni yw meithrin teimlad o gymuned, rhoi hwb i’n lles, a hybu cynaliadwyedd amgylcheddol a thrafnidiaeth gynaliadwy.
*Bydd y beiciau yn cael eu harddangos ar hyd llwybr beicio 1 milltir o hyd Pŵer Pedal.
Dywedodd Hanna Clarke, Arweinydd Prosiect Pŵer Pedal:
“Rydyn ni wedi derbyn cefnogaeth wych gan grwpiau cymunedol a busnesau lleol. Mae llawer o feiciau addurnedig anhygoel i’w gweld yn y parêd. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan.”
Dywedodd Jane Edwards Swyddog Cymorth Hybiau Cymunedol AVOW yn Hwb Cymunedol Gwersyllt:
“Dyma’r ail flwyddyn i Hwb Cymunedol Gwersyllt gymryd rhan ym Mharêd Pŵer Pedal! Mae oedolion a phlant wedi mwynhau ychwanegu ffotograffau, sgwariau wedi’u crosio, blodau, enwau a llawer mwy i’r beic, gan ddangos ysbryd cymunedol gwych! Mae’r Hwb yn edrych ymlaen i fynd allan i’r awyr agored ac ymweld â Dyfroedd Alun i weld yr holl feiciau yn arddangosfa Pŵer Pedal. Diolch!”
Dywedodd Michelle Ward o gwmni Porvair Sciences Limited ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam:
“Mae bod yn rhan o arddangosfa Pŵer Pedal eleni wedi bod yn wych. Mae addurno’r beic â deunydd gwastraff yn gwneud i chi feddwl yn wahanol am wastraff ac mae wedi dod â phawb at ei gilydd.”
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiadau: Dydd Llun, 10 Mehefin – 18 Mehefin 2024
Amser: 10am – 3pm
Lleoliad: Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Cofiwch gymryd rhan yn ein cystadleuaeth a phleidlais Facebook yr wythnos nesaf i ddewis eich hoff feic! Mae Parêd Pŵer Pedal yn cael ei gynnal diolch i nawdd hael gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chefnogaeth Cadwyn Clwyd, AVOW, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dewch draw i fwynhau’r gweithiau creadigol, a chael eich ysbrydoli gan Barêd Pŵer Pedal ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun!
Diolch i
Am gymryd rhan ym Mharêd Pŵer Pedal eleni.



Pedal Power
Refurbs Buckley Knitters
3 Counties Connected Community Rail Partnership