Mae Pŵer Pedal yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi derbyn arian grant gan Sefydliad KFC y DU / KFC Foundation UK. Cafodd y gwasanaeth beicio pob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam, ei ddewis o blith nifer o sefydliadau lleol ar draws cymunedau bwytai KFC yn y DU, gyda’r nod o alluogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

Bydd Pŵer Pedal yn defnyddio’r arian i ddarparu sesiynau beicio i bobl ifanc er mwyn meithrin eu hyder a’u lles drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau beicio.

Bydd y sesiynau yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, ehangu eu gorwelion a dysgu sgiliau newydd yn ystod gweithgareddau beicio hwyliog a sesiynau cynnal beiciau.

Mae Cycling 4 All, yr elusen sy’n rheoli ac yn rhedeg Pŵer Pedal, yn hynod o ddiolchgar i Sefydliad KFC am gydnabod y gwaith mae’n ei wneud i wella bywydau pobl ifanc yn ardal Wrecsam.

cy