Mae Pŵer Pedal, y gwasanaeth beicio bob-gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, yn cynnig gwasanaeth Cyfnewid Beiciau newydd.

Mae llawer o deuluoedd yn ei chael yn anodd talu am feiciau newydd i’w plant wrth iddynt dyfu. Mae’r gwasanaeth Cyfnewid Beiciau yn cynnig cyfle i deuluoedd lleol gyfrannu beiciau sydd wedi mynd yn rhy fach, neu nad ydynt eu heisiau mwyach, a’u cyfnewid am rai mwy o faint (os ydynt ar gael).

Y nod yw helpu teuluoedd sy’n cael trafferth ymdopi â’r argyfwng costau byw, ac atal beiciau nad yw pobl eu hangen mwyach rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn gobeithio y gall roi beiciau wedi’u hailgylchu am ddim i blant y teuluoedd hynny sy’n methu fforddio prynu beic o gwbl.

Bydd y gwasanaeth Cyfnewid Beiciau ar gael yn Pŵer Pedal bob dydd Mercher a dydd Gwener ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam. Gallwch ffonio 07908325508 neu 01978 757524 i gael rhagor o fanylion.

Mae Pŵer Pedal hefyd yn cynnig dewis o feiciau fforddiadwy wedi’u hadnewyddu y gallwch eu prynu mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Mae pob beic wedi cael ei archwilio gan fecanydd Cytech cymwysedig.

Yn ystod y gaeaf hwn, mae Pŵer Pedal wedi dechrau gwasanaeth newydd Dysgu Reidio Beic sydd wedi bob yn boblogaidd iawn ac mae’r gwersi yn llawn. Gall plant ddod â’u beiciau eu hunain neu gallant fenthyg beiciau rhad a chael cymorth gan swyddogion prosiect profiadol i ddysgu sut i reidio beic mewn lleoliad diogel.

Yn y flwyddyn newydd, bydd rhaglen Dysgu Reidio Beic yn cynnal rhagor o sesiynau. Mae Pŵer Pedal yn gofyn i bobl gadw llygad ar y dyddiadau newydd ar gyfer Dysgu Reidio Beic a chael rhagor o wybodaeth am y cynllun Cyfnewid Beiciau drwy ymweld â gwefan Pŵer Pedal  www.cycling4all.org a’r platfformau cyfryngau cymdeithasol.

cy