Diolch i arian gan Comic Relief, gall Pŵer Pedal gynnig ei wasanaeth Cyfnewid Beiciau poblogaidd unwaith eto bob bore Sadwrn dros yr haf. Dyma gyfle gwych i blant gael beic o’r maint cywir mewn pryd ar gyfer y gwyliau haf.

Gall prynu beic mwy o faint i blentyn fod yn gostus iawn, felly mae’r gwasanaeth Cyfnewid Beiciau yn cynnig dewis arall i deuluoedd lleol. Gall teuluoedd gyfrannu hen feiciau i wasanaeth Cyfnewid Beiciau Pŵer Pedal a’u cyfnewid am feic mwy (os oes un ar gael). Bydd yr holl feiciau sy’n rhan o’r gwasanaeth yn cael eu harchwilio gan fecanydd Cytec cymwysedig.

Y nod yw helpu teuluoedd sy’n cael trafferth ymdopi â’r argyfwng costau byw ac atal beiciau nad oes ar neb eu hangen mwyach rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

Gwahoddir teuluoedd lleol i alw heibio gwasanaeth Pŵer Pedal ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 4AG ar fore Sadwrn rhwng 10 am a 12 pm i weld y gwahanol feiciau sydd ar gael, ac i gyfnewid eu beic am fodel mwy o faint.

Mae Pŵer Pedal hefyd yn cynnig sesiynau dysgu reidio beic am ddim bob bore Sadwrn.

Os hoffech gyfnewid eich beic, anfonwch e-bost atom yn nodi manylion y beic a pha ddydd Sadwrn y byddwch yn galw draw; ein cyfeiriad e-bost yw info@groundworknorthwales.org.uk . Gallwch anfon neges atom i’r un cyfeiriad os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein sesiynau Dysgu Reidio.

cy