Cynllun Dyfarnu
Cynllun Gwobr Beicio i Mi
Mae ein gwobr ‘Beicio i Mi’ yn cynnwys tri lefel cysylltiedig, sef: Lefel 1: Cydbwyso | Lefel 2: Pedalu | Lefel 3: Reidio
Rydym yn rhoi llyfr log i’r cyfranogwyr ac maent yn derbyn tystysgrif a bathodyn ar ôl cwblhau pob lefel.
Mae Beicio i Bawb yn annog defnyddwyr i osod nodau a thargedau sy’n addas ar gyfer eu gallu a’u ffitrwydd personol.
Bydd cyfranogwyr yn gosod heriau i’w hunain ac yn ystod pob sesiwn byddant naill ai’n cwblhau set o heriau neu’n gweithio tuag at eu cwblhau.
Er mwyn symud i’r lefel nesaf, rhaid mynychu o leiaf chwe sesiwn a rhaid i’r cyfranogwyr gwblhau pob un o’u heriau.
Mae staff a gwirfoddolwyr ar gael i gynnig arweiniad ac anogaeth.
Os hoffech chi ymuno â Chynllun Gwobr Beicio i Mi, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gofynnwch i aelod staff neu un o’n gwirfoddolwyr yn Pŵer Pedal neu ffoniwch ni: