Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi ei bod unwaith yn rhagor am gynnal digwyddiad Nadolig elusennol ar 23rd Tachwedd i godi arian ar gyfer Pŵer Pedal, y gwasanaeth seiclo pob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun
Mae Groundwork yn falch iawn bod modd cynnal digwyddiadau codi arian cymdeithasol unwaith eto ar ran yr elusen anabledd yn dilyn trafferthion y ddwy flynedd diwethaf, ac mae’r digwyddiad eleni yn addo bod yn un arbennig iawn.
Bydd yr elusen yn cynnal Ffair Nadolig ddydd Mercher, 23 Tachwedd 2022, mewn lleoliad unigryw ac arbennig (gofynnwch i gael rhagor o fanylion). Bydd yn noson wych o ddathlu a hwyl, gydag adloniant a chyfle i siopa, mwynhau diod pefriog, bybrydau tymhorol a raffl fawr, a’r cyfan mewn lleoliad gwych; pris y tocynnau fydd £18 y pen. Mae Groundwork Gogledd Cymru yn ddiolchgar iawn i noddwyr ein digwyddiad Zero Dry Time Wrecsam am gefnogi’r digwyddiad hwn.
Mae gwasanaeth seiclo Pŵer Pedal ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun Wrecsam, yn cynnig hwyl, therapi a chyfleoedd i bobl o bob gallu. Mae gan y gwasanaeth amrywiaeth o feiciau dwy-olwyn a thair-olwyn ynghyd â llwybr seiclo diogel sy’n helpu oedolion a phlant ag anableddau a chyflyrau iechyd gwahanol i gymryd rhan mewn ymarfer corff, cyflawni eu nodau a chael hwyl ar yr un pryd. Nid yw Pŵer Pedal yn derbyn unrhyw nawdd cyhoeddus ac mae’n gwbl ddibynnol ar ddigwyddiadau codi arian a chyfraniadau.
Os hoffech brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad tymhorol hwn a chefnogi gwasanaeth gwerthfawr Pŵer Pedal, cysylltwch â’r tîm marchnata yn Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524 neu e-bostiwch info@groundworknorthwales.org.uk info@groundworknorthwales.org.uk
Mae Groundwork Gogledd Cymru hefyd yn gofyn am gefnogaeth gan fusnesau lleol, felly os hoffai unrhyw gwmni neu sefydliad helpu drwy gyfrannu gwobrau ar gyfer y Raffl Fawr a’r raffl, mae croeso iddynt ffonio 01978 757524 neu e-bostio info@groundworknorthwales.org.uk